Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 11 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Byron Davies AC Keith Davies AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Edwina Hart AC, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Iestyn Davies, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Joshua Miles, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Chris Sutton, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Clerc) Rachel Jones (Dirprwy Glerc) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Eluned Parrott, Jeff Cuthbert a Gwenda Thomas.
2 Polisi Ardrethi Busnes - Ffederasiwn y Busnesau Bach
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies a Josh Miles.
3 Polisi Ardrethi Busnes - Craffu ar y Gweinidog
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am Fusnesau Bach a Chanolig sydd wedi elwa o’r Cynllun Ardrethi Busnes, ac sy’n gymwys amdano, ar gyfer pob Ardal Fenter.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu enghreifftiau o arferion da o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Ngogledd Iwerddon ac unrhyw ddata defnyddiol a ddeilliodd o hyn.
3.4 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am unrhyw asesiadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud a’r manteision a ddaeth yn sgil cynlluniau dros dro, gan gynnwys yr Ardal Fenter a chynlluniau ardrethi busnes Murco.
3.5 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am ddatblygiadau o ran ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar a chrynodeb gweithredol o’r astudiaeth y cyfeiriodd y Gweinidog ati.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5 Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.
6 Y Flaenraglen waith
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Flaenraglen Waith Haf 2015.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr oddi wrth Jane Hutt i William Graham ynghylch y Polisi Ardrethi Busnes
7.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
7.2 Papur ysgrifenedig gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru
7.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
7.3 Ymateb Consortiwm Manwerthu Prydain i weinyddu ardrethi busnes yn Lloegr (canfyddiadau interim)
7.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
7.4 Crynodeb o'r ymweliadau rapporteur ar 12 Chwefror 2015
7.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
7.5 Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i William Graham ynghylch y Strategaeth Sgiliau ar gyfer Pobl Hŷn
7.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.